NID CYMDEITHAS BRIFYSGOL GYFFREDIN MOHONI
Mae Corfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgol Cymru (UOTC Cymru) yn uned Wrth Gefn y Fyddin sy’n recriwtio myfyrwyr prifysgol ledled Cymru yn unig
Ymhlith y prifysgolion cysylltiedig mae:
Bangor, Aberystwyth, Abertawe, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru (Atriwm Caerdydd, Trefforest, Casnewydd), Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Abertawe, Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin) a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (Caerdydd)

PROFIAD UNIGRYW I FYFYRWYR
Mae Corfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgol Cymru (UOTC Cymru) yn cynnig profiad unigryw i fyfyrwyr prifysgol sy’n awyddus i ffynnu, gwneud ffrindiau oes a chael profiadau cyffrous a gwerth chweil. Byddwch yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy, yn mwynhau anturiaethau anhygoel, ac yn cael eich talu i wneud hyn.
Byddwch yn cael hyfforddiant milwrol ac arwain sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ynghyd â’r cyfle i ymgolli mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon ac antur, er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a chyfathrebu. Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau academaidd ac nid oes rheidrwydd arnoch i ymuno â’r Fyddin Arferol na’r Fyddin Wrth Gefn.
Cliciwch isod i weld a ydych chi’n gymwys i ymuno nawr!

HYFFORDDIANT ANTURUS a CHWARAEON
Mae gan UOTC Cymru dimau cystadleuol mewn sawl disgyblaeth fel Rygbi, Hoci, Pêl-rwyd, Pêl-droed a llawer mwy.
Fel Swyddog Cadét, byddwch yn cael eich cefnogi i roi cynnig ar chwaraeon newydd a hyd yn oed i gystadlu ar y lefel uchaf yn eich maes dewisol yn y Fyddin. Mae gennym ni gystadleuaeth chwaraeon flynyddol UOTC – Cwpan Her y Frenhines yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst, sy’n ddigwyddiad gwych y byddai croeso i chi gymryd rhan ynddo.
Mae hyfforddiant a gweithgareddau anturus yn nodwedd amlwg drwy gydol blwyddyn UOTC ac mae’n galluogi Swyddogion Cadét i brofi ac ymestyn eu hunain i’r eithaf, magu hyder a ffynnu mewn amgylcheddau newydd. Yma yn UOTC Cymru, gallwch hyfforddi mewn unrhyw faes, o gaiacio yn y DU i sgïo’r Alpau, dringo creigiau yn Bavaria i enwi dim ond rhai. Dyma gyfle i chi ddysgu sgiliau newydd a ffynnu mewn amgylcheddau newydd a chyffrous. Os oes gweithgaredd sydd o ddiddordeb arbennig i chi, mae’n bosibl y cewch gyfle i’w drefnu eich hun hyd yn oed.
I gael gwybod mwy, cliciwch y ddolen isod!

GWEITHGAREDDAU CYMDEITHASOL
Mae gennym ni galendr cymdeithasol gwych, o giniawau catrodol o fri a phartïon coctels i ddigwyddiadau gwisg ffansi anffurfiol. I ddathlu ein treftadaeth Gymreig, mae gennym ni hefyd ginio Gŵyl Dewi catrodol sy’n arwain at seremoni draddodiadol ‘bwyta cennin’ lle bydd aelodau enwebedig o’r uned yn bwyta cennin ac yn cynnig llwncdestun i Dewi Sant. Mae gan UOTC Cymru bopeth sydd ei angen arnoch i wella a chyfoethogi eich cyfnod yn y brifysgol yng Nghymru, gan arwain at brofiad prifysgol sy’n fwy na dim ond eich gradd.
Cliciwch y ddolen isod. Byddwn yn cysylltu â chi i roi rhagor o wybodaeth i chi am sut mae dechrau’r broses ymgeisio.
ARMY OFFICER FINANCIAL SUPPORT
aspirations! Don't let money get in the way of your's.
NID BWRSARI CYFFREDIN MOHONO
Ar ôl profi’r cyfeillgarwch a’r cyfoeth o gyfleoedd sy’n dod law yn llaw â bod yn rhan o UOTC, efallai y byddwch yn penderfynu bod gyrfa yn y Fyddin yn addas i chi.
Mae nifer o fwrsarïau Swyddogion y Fyddin ar gael i’ch cefnogi drwy’r brifysgol, gan eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial.
Fe allech chi fod yn gymwys i gael bwrsari o hyd at £25,000 neu £75,000 os ydych chi’n fyfyriwr meddygol.
Cliciwch isod i gael gwybod mwy!
3 cham i ymuno
Manylion Cyswllt yr Uned
UOTC Cymru
Prif swyddfa (Caerdydd)