Meddygon Cymru
Mae Ysbyty Maes 203 yn un o ddeg ysbyty maes Wrth Gefn y Fyddin sy’n gallu darparu hyd at 200 o welyau pan fydd digon o staff yno. O ran ei leoliad daearyddol, 203 yw’r ysbyty maes yng Nghymru sy’n recriwtio o fewn ffiniau Cymru’n unig.

Amdanom ni
Mae Pencadlys Catrodol yr Uned wedi’i leoli yn Llandaf, Caerdydd. Mae’r unedau wedi’u lleoli yn Abertawe (Uned A), Llandaf (Uned B y De), Cwrt-y-Gollen (Uned B y Gogledd), Bodelwyddan (Uned C y Gorllewin) a Wrecsam (Uned C y Dwyrain)
Mae aelodau o’r Uned wedi gweithio ar nifer o weithrediadau o’r blaen, gan gynnwys Irac ac Afghanistan.
Uned flaenorol Ysbyty Maes (Cymru) 203, trydydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin a wasanaethodd yn Fflandrys, gyda thimau yn gweithio yn Southampton ac ysbytai ymadfer yng Nghaerdydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd yr Ysbyty Cyffredinol ei dadfyddino yn 1919 gan gadw un adran yn Dumfries Place, Caerdydd.