Brigâd 160 (Cymru)

160 (Wales) Brigade

Gyda'i Phencadlys yn Aberhonddu, mae Brigâd 160 (Cymru) wrth wraidd y Fyddin yng Nghymru. Mae gan y Frigâd, a sefydlwyd yn 1908, hanes clodwiw fel rhan allweddol o weithgareddau'r Fyddin yng Nghymru ers bron i ganrif.

O fewn ardal Brigâd 160 (Cymru) ceir rhai o safleoedd hyfforddi gorau'r Fyddin, gan gynnwys Ysgol Frwydro Troedfilwyr Aberhonddu ac Ardal Hyfforddi Pontsenni.

Yn wir, mae'r rhan fwyaf o droedfilwyr Prydain yn ymweld â'r safleoedd hyn rywbryd neu'i gilydd yn ystod eu gyrfa. Mae'r SAS yn cynnal cryn dipyn o'i hyfforddiant ar dir garw Cymru sy'n gwbl addas ar gyfer hyn.

Ymhlith rhai o sefydliadau hyfforddi pwysig eraill Cymru mae Maes Tanio Castellmartin, Maes Tanio'r Fagnelaeth Frenhinol ym Maenorbŷr a Chanolfan Hyfforddi Mynydd y Gwasanaethau ar y Cyd ar Ynys Môn.

Mae unedau o bob math yn dod i ymarfer ar dir y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) ac ar dir preifat, wedi'u cynorthwyo gan staff y Frigâd sy'n meithrin cydberthnasau da â pherchenogion tir a rhanddeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys ffermwyr, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae dyletswyddau defodol yn rhan bwysig o dreftadaeth y Fyddin yng Nghymru: mae Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol (Gwirfoddolwyr), er enghraifft, yn tanio pum Salíwt Brenhinol yng Nghaerdydd bob blwyddyn, tra bod gan y pum Catrawd Gymreig Ddinasfraint 19 o drefi a dinasoedd rhyngddynt.