We use cookies to improve your experience on our website and ensure the information we provide is more relevant. If you continue without changing your cookie settings, we will assume you are happy to accept all cookies on the Army website. You can change your cookie settings at any time.

 

Hanes y Gatrawd

Cafodd y Gwarchodlu Cymreig ei sefydlu ar 26 Chwefror 1915 drwy orchymyn Brenin Siôr V, er mwyn cwblhau’r cyflenwad cenedlaethol o gatrodau Gwarchodlu Troedfilwyr a oedd yn gysylltiedig â gwledydd y Deyrnas Unedig.

Gallai’r Gwarchodlu Cymreig hawlio ei le bellach ochr yn ochr â Gwarchodlu’r Grenadwyr a Gwarchodlu Coldstream yn Lloegr, y Gwarchodlu Albanaidd a’r Gwarchodlu Gwyddelig. Ddeuddydd yn ddiweddarach, bu’r Bataliwn yn Gwarchod y Brenin am y tro cyntaf ym Mhalas Buckingham ar 1 Mawrth 1915 sef Dydd Gŵyl Dewi.

Ar 17 Awst 1915, hwyliodd y Bataliwn 1af am Ffrainc a hynny’n rhan o Adran y Gwarchodlu. Ymladdwyd ei frwydr gyntaf yn Loos ar 27 Medi 1915 ac enillwyd Croes Fictoria gyntaf y Gatrawd gan Sarsiant Robert Bye yn Pilckem ym mis Gorffennaf 1917.

Remnants of 2 Company, 3rd Battalion Welsh Guards at ArceRhwng y rhyfeloedd, bu’r Bataliwn 1af yn gwasanaethu yn Cologne, yr Aifft a Gibraltar, a dyna lle’r oedd pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939.

Ehangwyd y Gatrawd yn dri Bataliwn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu’r Bataliwn 1af yn ymladd yn holl ymgyrchoedd Gogledd-orllewin Ewrop. Ffurfiwyd yr 2il Fataliwn ym 1939 ac ymladdodd yn Boulogne ym 1940, tra bu’r Bataliwn 1af yng Ngwlad Belg yn rhan o Fyddin Ymgyrchol Prydain. Ym mis Mai 1940, ym Mrwydr Arras, enillwyd ail Groes Fictoria’r

Gatrawd gan yr Is-gapten yr Anrh. Christopher Furness, a laddwyd ar faes y gad. Ym 1941, ffurfiwyd 3ydd Bataliwn ac ymladdodd drwy’r Ymgyrchoedd yn yr Eidal a Tunisia.

13 Troop 2 Welsh Guards, Enchade HollandYn y cyfamser, bu’r Bataliwn 1af a’r 2il Fataliwn yn rhan o Adran Arfog y Gwarchodlu – y Bataliwn 1af fel Troedfilwyr a’r 2il Fataliwn fel Bataliwn Arfog. Y ddau Fataliwn ar y cyd oedd y milwyr cyntaf a ddychwelodd i Frwsel ar 3 Medi 1944 ar ôl symud ymlaen 100 o filltiroedd mewn un diwrnod, yn yr hyn a ddisgrifiwyd fel rhuthr arfog heb ei ail yn y rhyfel hwn neu unrhyw ryfel arall.

Yn fuan ar ôl y rhyfel, dadfyddinwyd y 3ydd Bataliwn a rhoddwyd yr 2il Fataliwn mewn marwgwsg. Yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf, bu’r Bataliwn 1af yn gwasanaethu ym Mhrydain Fawr, Gogledd Iwerddon, Palestina, yr Aifft, yr Almaen, Aden, Cyprus a Belize. Roedd hefyd yn rhan o’r tasglu a ymladdodd yn ymgyrch Ynysoedd Falkland ym 1982, ac erbyn hyn mae’r Anrhydedd Brwydro am hwnnw yn ymddangos ar y faner. Cynhaliwyd ymarferion dros y byd i gyd, gan gynnwys yn yr UDA, Canada, Gwlad Groeg, Belize, Norwy, Kenya, Moroco, Gibraltar, Macedonia, Gwlad Pwyl a Ffrainc.

Yn y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae’r Bataliwn 1af wedi bod ar Ymgyrchoedd am ddau dymor ym Mosnia ac am dymhorau yng Ngogledd Iwerddon, Irac a Kosovo; erbyn hyn, mae’n gwasanaethu am ail dymor yn Affganistan.

Sarsiant Robert Bye VC

Sergeant Robert Bye VCAr 31 Gorffennaf 1917, dangosodd Sarsiant Robert Bye y dewrder a’r ymroddiad eithaf i’w ddyletswydd yn ystod ymosodiad ar safle’r gelyn.

Gan weld bod dau o flocdai’r gelyn yn peri trafferth i’r rhai ar flaen y gad, brysiodd ef draw at un ohonynt, ar ei liwt ei hun, a llonyddu’r Garsiwn.

Ailymunodd wedyn â’i Gwmni, ac aeth ymlaen i ymosod ar yr ail amcan.

Pan oedd y milwyr wedi symud ymlaen i ymosod ar y trydydd amcan, gosodwyd dyletswydd ar un parti i glirio llinell o flocdai yr aethpwyd heibio iddynt.

Gwirfoddolodd Sarsiant Robert Bye i arwain y parti hwn, cyflawnodd ei amcan, a daliodd lawer o garcharorion, gan roi cymorth amhrisiadwy felly i’r Cwmnïau a oedd yn ymosod.

Is-gapten yr Anrhydeddus Christopher Furness VC

Lt The Honorable Christopher Furness VCRoedd Is-gapten yr Anrhydeddus C Furness yn rheoli Platŵn Cludyddion, y Gwarchodlu Cymreig, yn ystod y cyfnod rhwng 17 a 24 Mai 1940, pan oedd ei Fataliwn yn rhan o arsiwn Arras.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd ei Blatŵn wrthi’n ddiflino’n patrolio o flaen rhannau tra gwasgaredig y perimedr neu rhyngddynt, ac yn ymladd llawer o frwydrau lleol gyda’r gelyn. Roedd arweinyddiaeth ac egni Is-gapten Furness heb eu hail ar yr holl achlysuron hyn a rheolodd ei ddynion ag ysbryd ymosodol godidog.

Yn ystod y nos ar 23 Mai 1940, clwyfwyd Is-gapten Furness tra bu’n patrolio ond gwrthododd gael ei gludo allan. Erbyn hyn, roedd y gelyn wedi’i atgyfnerthu’n addas ac wedi amgylchynu’r dref ar dair ochr a chafwyd gorchymyn i gilio i Douai yn ystod y nos ar 23 - 24 Mai. Gorchmynnwyd i Blatŵn Is-gapten Furness, ynghyd â llu bach o danciau ysgafn, warchod y cludiant a oedd yn cilio, a hwnnw’n cynnwys dros 40 o gerbydau.

Tua 0230 o’r gloch ar 24 Mai, ymosododd y gelyn ar ddwy ochr o’r dref. Ar un adeg, symudodd y gelyn ymlaen ar hyd ffordd yr oedd y cludiant yn ei defnyddio i gilio, gan olygu bod gynnau atal tanciau a mân arfau’n saethu’n drwm ato. O ganlyniad, rhwystrwyd y golofn gyfan ac fe’i rhoddwyd mewn perygl difrifol. Ac yntau’n gwerthfawrogi mor ddifrifol oedd y sefyllfa, ac er gwaethaf ei glwyfau, penderfynodd Is-gapten Furness ar unwaith ymosod ar y gelyn, a oedd â ffosydd wedi’u cloddio’n helaeth o’i amgylch y tu ôl i wifren.

Symudodd Is-gapten Furness ymlaen gyda thri chludydd, a’r tanciau ysgafn yn eu cefnogi. Ar unwaith, dechreuodd y gelyn danio’n drwm iawn o fân arfau a gynau atal tanciau. Cafodd y tanciau ysgafn eu darfod, ond aeth Is-gapten Furness yn ei flaen. Cyrhaeddodd safle’r gelyn ac aeth o’i amgylch nifer o weithiau oddi agos, gan ladd llawer. Tarwyd y tri chludydd i gyd a chafodd y rhan fwyaf o’u criwiau eu lladd neu eu clwyfo. Analluogwyd ei gludydd yntau a lladdwyd y gyrrwr a gynnwr Bren.

Wedyn, bu’n ymladd y gelyn yn bersonol â’i ddyrnau nes iddo gael ei ladd. Yn sgil ei hunanaberth rhyfeddol er anobaith mawr, ac yntau eisoes wedi’i glwyfo, ciliodd y gelyn am y tro. O ganlyniad, llwyddodd y golofn fawr o gerbydau i ddianc heb niwed a buont yn gwarchod rhai o’r clwyfedig o’i Blatŵn Cludydd yntau a’r tanciau ysgafn wrth iddynt adael yr ardal.

Share this page

Bookmark and Share