We use cookies to improve your experience on our website and ensure the information we provide is more relevant. If you continue without changing your cookie settings, we will assume you are happy to accept all cookies on the Army website. You can change your cookie settings at any time.

 

Hanes y Gatrawd

Yn y llun: Siencyn yr afr, sef masgot Catrawd y Cymry Brenhinol.

Sefydlwyd Catrawd newydd y Cymry Brenhinol ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006 pan unwyd bataliwn rheolaidd, bataliwn wrth gefn a bataliwn troedfilwyr cadét y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a Chatrawd Frenhinol Cymru (Catrawd Droed y 24ain/41ain) yng Nghymru.

Bathodyn Cap o gatrawd blaenorolMae gan y rhiant-gatrodau hyn hanes a threftadaeth sy'n dyddio'n ôl 300 mlynedd. Fe'u sefydlwyd gyntaf o fewn dyddiau i'w gilydd ym mis Mawrth 1689, pan gafodd Arglwydd Herbert o Chirbury a Syr Edward Dering eu gorchymyn gan Frenin William III, mewn un memrwn comisiynu, i greu catrawd o droedfilwyr i wasanaethu yn Iwerddon.

Ers y dyddiau cynnar hynny, mae'r catrodau hyn wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau arwyddocaol yn hanes Prydain. Dros y blynyddoedd, mae enwau'r Catrodau hyn wedi esblygu i gyflawni rolau newidiol a diwallu anghenion cenedlaethol.

Y Rhyfeloedd Byd

Mae'r rhan hollbwysig a chwaraewyd gan ei milwyr yn y ddau Ryfel Byd yn unig yn sicrhau y bydd enwau'r 23ain neu'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, y 24ain neu Gyffinwyr De Cymru, a'r 41ain neu'r Gatrawd Gymreig yn aros yn y cof ac yng nghalonnau pobl am amser hir iawn.

Yn 1969, er mawr dristwch, unodd y Cyffinwyr a'r Gatrawd Gymreig i ffurfio Catrawd Frenhinol Cymru. Ar gyfer y Rhyfel Mawr, mae'r ffigurau sy'n gysylltiedig â'r catrodau hyn o droedfilwyr yn ymddangos yn anghredadwy heddiw gyda 250,000 o ddynion mewn 105 o fataliynau yn cael 106 o Anrhydeddau Brwydro, ond collwyd 25,885 o fywydau gyda llawer mwy o filwyr yn cael eu hanafu a'u gwneud yn anabl am weddill eu hoes.

Ein treftadaeth ymladd

Mae cipolwg ar hanes y Cymry Brenhinol yn tanlinellu natur gyfoethog treftadaeth ymladd y Gatrawd. Ceir sawl achlysur lle y gwelwyd y rhiant-gatrodau yn ymladd ochr yn ochr, yn ymgyrchoedd Marlborough, yn Rhyfel y Crimea, yng Nghoedwig Memetz yn y Rhyfel Mawr ac yn olaf, yn 1944, wrth ryddhau dinas 's-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd.

Mae swyddogion a milwyr unigol wedi cael eu rhyngleoli rhwng catrodau ar hyd yr amser gan gyfrannu at gyfuniad cryf o frawdoliaeth a chyd-ddealltwriaeth.


Daeth y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn enwog am sawl ymgyrch; rhaid sôn am Minden yn 1759, Yorktown yn America, Albuhera yn y Penrhyn, achub y Lliwiau yn Alma yn ystod Rhyfel y Crimea, Rhyddhad Lucknow yn ystod y Miwtini yn India, yr anrhydedd unigryw a gafwyd ar ôl gwrthryfel Boxer yn Peking a'u hymgyrch ddewr yn 1944 yn Kohima wrth ffiniau India.

Mae'n bosibl bod Cyffinwyr De Cymru yn fwyaf enwog am ymgyrchoedd Marlborough ar adeg pan oedd y Dug yn Gyrnol arnynt ynghyd â Rhyfel America am Annibyniaeth, yn y Penrhyn yn Talavera, a rhyfeloedd y Sikh yn Chillianwallah. Roedd y rhan a gafodd ei chwarae ganddynt yn yr ymgyrch Zwlaidd yn drasig ac yn odidog; mae Isandlwana a Drifft Rorke yn debygol o aros yn y cof am amser hir.

Sefydlwyd y Gatrawd Gymreig yn 1719 fel Catrawd Fethedig i gyflawni dyletswyddau garsiwn, ac aeth ymlaen i ennill bri mewn ystod eang o ymgyrchoedd, yn fwyaf nodedig yng Nghanada, yn Rhyfel y Crimea, yn rhyfeloedd Napolean (lle y gwnaeth elfennau wasanaethu yn Waterloo a chyda'r Llynges Frenhinol fel Troedfilwyr y Llynges) heb sôn am y ddau ryfel byd a Korea yn dilyn hynny.

Ymgyrchoedd Diweddar

Yn fwy diweddar, mae milwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a Chatrawd Frenhinol Cymru wedi chwarae rhan hanfodol mewn teithiau yng Ngogledd Iwerddon, y Balcanau ac Irac, gan ennill llawer o anrhydeddau, gwobrau unigol a chryn glod am eu cadernid a'u gwir broffesiynoldeb ynghyd â'u hiwmor Cymreig nodweddiadol a'u hymdeimlad o chwarae teg.

Mae'r Gatrawd wedi ennill 244 o Anrhydeddau Brwydro, sy'n llawer mwy nag y gellir eu dangos ar y Lliwiau, ac mae 43 o'i milwyr wedi cael gwobr fwyaf Prydain am ddewrder sef Croes Fictoria. Yn bennaf oll, heddiw, mae'r Gatrawd yn uniaethu'n gryf â Chymru a'i phobl, sy'n sicrhau bod pob Bataliwn sy'n rhan ohoni (boed yn rheolaidd, wrth gefn neu'n gadét) yn meddu ar ddawn unigryw ac yn cyd-dynnu'n dda.

Share this page

Bookmark and Share