Y Gwarchodlu Cymreig
Cafodd y Gwarchodlu Cymreig ei sefydlu ar 26 Chwefror 1915 drwy orchymyn Brenin Siôr V, er mwyn cwblhau'r cyflenwad cenedlaethol o gatrodau Gwarchodlu Troedfilwyr a oedd yn gysylltiedig â gwledydd y Deyrnas Unedig.
Mae'r ystod eang o weithgareddau a gyflawnwyd gan y Gwarchodlu Cymreig yn ddiweddar yn adlewyrchu natur brysur ac amrywiol y Fyddin Brydeinig fodern. Bydd Gwarchodluwyr sydd wedi gwasanaethu gyda'r Bataliwn ers 2002 wedi cymryd rhan mewn ymgyrchoedd ymhob blwyddyn galendr. Mae teithiau i Fosnia, Kosovo, Gogledd Iwerddon, Irac ac Affganistan, ynghyd ag ymladd tân, chwaraeon, hyfforddiant anturus a Dyletswyddau Defodol y Wladwriaeth a Dyletswyddau Cyhoeddus yn adlewyrchu prysurdeb y cyfnod hwn.
Fel Catrawd Gwarchodlu Troedfilwyr yn y Gosgordd, mae'r Gwarchodlu Cymreig yn falch o warchod Ei Mawrhydi'r Frenhines yn ei phreswylfeydd brenhinol. Wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn lleolir y Bataliwn yng nghanol Llundain. Ar hyn o bryd, mae'r Gatrawd wedi'i lleoli ym Marics Lille, Aldershot ac mae'n perthyn i'r 19eg Frigâd Ysgafn.