Chwaraeon a Hyfforddiant Anturus
Er bod bywyd yn y Gatrawd yn brysur, rydym yn achub ar bob cyfle i ymlacio a mwynhau ein hunain.Yn ogystal â chynnal lefelau ffitrwydd, rydym yn mwynhau cystadlu mewn chwaraeon amrywiol ar lefel bataliwn fwy anffurfiol a hefyd mewn cystadlaethau mwy o faint a gynhelir ar gyfer y Fyddin gyfan.
Fel Catrawd Gymreig, mae rygbi yn chwarae rhan bwysig iawn, yn amlwg, ac rydym bob amser yn cystadlu'n frwd am Gwpan y Fyddin (rydym wedi bod yn fuddugol sawl gwaith). Fodd bynnag, rydym hefyd yn cystadlu mewn ystod eang o gampau eraill gan gynnwys pêl-droed, bocsio, sboncen, hwylio a sgïo.
Chwaraeon a Hyfforddiant Anturus y Cymry Brenhinol
Rydym hefyd yn ceisio trefnu hyfforddiant anturus i'n milwyr mor aml â phosibl.Yn wahanol i gampau arferol, nod hyfforddiant anturus yw eich herio mewn ffyrdd anghyffredin.
Mae'n ffordd dda o feithrin sgiliau gweithio mewn tîm, sgiliau cyfathrebu a'r gallu i feddwl dan bwysau ond gan fwynhau ar yr un pryd gobeithio.
Gall hyn fod mor syml ag wythnos yn mynydda yn Eryri ond gallai olygu mynd ar hirdaith rywle yn y byd. Yn ddiweddar, mae ein milwyr wedi mwynhau mynd i blymio, dringo, caiacio a mynd ar deithiau cerdded hir.