3 Y Cymry Brenhinol
3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol yw bataliwn Tiriogaethol (neu Wrth Gefn) y Gatrawd.
Lleolir ei bencadlys ym Marics y Maendy yng Nghaerdydd, ond lleolir y Cwmni ledled Cymru hefyd yn Abertawe, Pontypridd, Aberystwyth, Wrecsam a Bae Colwyn.
Mae'r 3ydd bataliwn yn cynnal ei hyfforddiant ar sail ran-amser (un noson yr wythnos) a nifer o benwythnosau'r flwyddyn.
Mae milwyr o 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd ac ymarferion gyda'r Bataliwn 1af a'r 2il Fataliwn yn rheolaidd yn ogystal â chynnal eu hymarferion eu hunain yn y DU a thramor.