Ysbyty Maes 203 (Gwirfoddolwyr)

Convoy of ambulances

Mae Ysbyty Maes (Cymru) 203 (Gwirfoddolwyr) yn rhan o Wasanaethau Meddygol y Fyddin Diriogaethol ac mae'n gweithredu fel prif uned Feddygol y Fyddin Diriogaethol yng Nghymru. Ar adeg o heddwch, cynhelir hyfforddiant ar gyflawni'r rôl o ddarparu ysbyty llawfeddygol â 200 o welyau adeg rhyfel er mwyn cefnogi'r Fyddin Reolaidd.

Bwriedir i Ysbytai Maes gael eu defnyddio ar faes y gad o dan gynfas neu mewn adeiladau segur. Cânt eu staffio'n llawn a gallant ddarparu gofal a thriniaeth o'r radd flaenaf i filwyr sydd wedi'u hanafu yn ystod ymgyrchoedd milwrol.

Mae gan Ysbyty Maes (Cymru) 203 (Gwirfoddolwyr) bedwar tîm llawfeddygol (dau dîm cyffredinol a dau dîm orthopedig). Mae gennym hefyd adrannau pelydr-x, patholeg, ffisiotherapi a fferyllol i greu cyfleuster meddygol integredig. Gall yr ysbyty cyfan gael ei ddatgymalu, ei symud a'i godi unwaith eto os oes angen.

Ar hyn o bryd rydym wrthi'n recriwtio Meddygon, Nyrsys a Gweithwyr Meddygol Proffesiynol. Mae cyfleoedd hefyd ar gael ar gyfer Cogyddion, Clercod, Peirianwyr a chrefftau amrywiol eraill.