Gwarchodlu Dragŵn Cyntaf y Frenhines
Yn bennaf oll: Gwarchodlu Dragŵn Cyntaf y Frenhines
Gwarchodlu Dragŵn Cyntaf y Frenhines yw Catrawd Marchoglu Cymru a'r Gororau (Swydd Amwythig, Swydd Henffordd a Swydd Gaer).Hon yw uwch Gatrawd y Llinell yn y Fyddin Brydeinig ac mae ganddi 324 o flynyddoedd o hanes nodedig.
O blith Catrodau'r Fyddin, hon yw un o'r rhai mwyaf profiadol, wedi gwasanaethu fel y llu rhagchwilio yn ystod Rhyfel Cyntaf y Gwlff yn 1990/91, Ail Ryfel y Gwlff yn 2003 ac Affganistan yn 2008/09.
Mae'r Gatrawd yn gweithredu cyn i'r prif drefniannau arfog gyrraedd, gan ragchwilio i ddod o hyd i'r gelyn, trosglwyddo gwybodaeth amserol a chywir a lleoli union safle'r gelyn er mwyn ei drechu.
Anfonwyd Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines i Affganistan ym mis Hydref 2008 lle y defnyddiodd ei filwyr sgiliau potsiwr i gasglu gwybodaeth am y gelyn a'i ymladd mewn gornest glòs er mwyn ei drechu. Yn Affganistan, defnyddiwyd y cerbydau mwyaf modern, megis cerbyd arfog cadarn y Mastiff a cherbyd patrôl effeithiol y Jackal.
Cafodd milwyr Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines eu cyflogi fel aelodau o'r criw (cadlywyddion, gynwyr a gyrwyr) ar danciau ysgafn y Scimitar ynghyd â cherbydau'r Mastiff a'r Jackal; cêl-saethwyr, blaen-reolwyr o'r awyr, prif ynwyr gan ddefnyddio gynnau peiriant 0.50 modfedd a lanswyr grenadau awtomatig 40mm, gweithredwyr taflegrau annel y Javelin, gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a hyd yn oed yrwyr beiciau cwad.
Os ydych yn ddyn ifanc heini, deallus, llawn cymhelliant a blaengar sydd am ehangu eich gorwelion a mynd ar antur, gallech fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm. Gallwn gynnig gyrfa gyfoethog, sicr a buddiol sy'n para rhwng pedair blynedd a dwy flynedd ar hugain. Byddwch yn rhan o dîm agos iawn a byddwch yn gwneud ffrindiau am oes. Beth am gysylltu â'n staff recriwtio i drafod gyrfa gyda Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines?
Darllenwch y tudalennau hyn i feithrin gwell dealltwriaeth o'r hyn a wna milwyr Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines wrth wasanaethu ei gwlad. Maent yn griw anhygoel sy'n gwbl ymroddedig, teyrngar, gonest, dewr a disgybledig ac yn parchu eraill.