Corfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion Cymru
Mae Corfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion Cymru yn gyfrifol am ddatblygu potensial arwain myfyrwyr prifysgol dethol tra'n codi ymwybyddiaeth o ethos, gwerthoedd a chyfleoedd gyrfaol y Fyddin.
Mae'n agored i bob myfyriwr amser llawn a ph'un a oes ganddo ddiddordeb mewn gyrfa yn y Fyddin Reolaidd neu Diriogaethol ai peidio, mae llawer o gyfleoedd i gyflawni heriau diddorol a derbyn hyfforddiant â thâl.
Ffair y Glas
I ddysgu mwy am Gorfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion Cymru ewch i Ffair y Glas yn eich priod brifysgol a siaradwch â staff a chadetiaid presennol wrth eu stondin. Gallant ddweud wrthych am y Penwythnos Asesu a'r hyn y mae angen i chi wybod amdano.
Penwythnos Asesu
Cynhelir y penwythnos asesu ar ddiwedd mis Medi yng nghanolfan leol y Fyddin Diriogaethol yn eich prifysgol gan roi'r cyfle i chi ein hystyried cyn penderfynu ymuno ai peidio. Mae rhaglen y dydd yn cynnwys:
- Cyflwyno'r Corfflu Hyfforddi Swyddogion
- Cynnal cyfweliad rhagarweiniol
- Cynnal grwpiau trafod
- Cynnal digwyddiad cymdeithasol
Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i ymuno â ni mewn sesiwn Sefydlu'r penwythnos canlynol (rhwng nos Wener a phrynhawn dydd Sul). Fe'ch cludir yno. Mae rhaglen y penwythnos yn cynnwys:
- Cyflwyno dogfennaeth
- Cynnal profion meddygol
- Asesu ffitrwydd
- Ardystio
- Rhoi dillad a chyfarpar
- Cynnal digwyddiad cymdeithasol
- Cyflwyno'r uned a'i haelodau
Diddordeb gennych? Ffoniwch ni ar 02920726183, neu anfonwch e-bost atom yn: WalesOTC-RAOWO@mod.uk